Isaiah 7

Eseia'n cynnig gobaith i'r brenin Ahas

1Yn y cyfnod pan oedd Ahas (mab Jotham ac ŵyr i Wseia) yn frenin ar Jwda, dyma Resin (brenin Syria) a Pecach fab Remaleia (brenin Israel), yn ymosod ar Jerwsalem; ond wnaethon nhw ddim llwyddo i'w gorchfygu hi. a

2Pan ddaeth y newyddion i balas brenhinol Dafydd fod Syria ac Effraim
7:2 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
mewn cynghrair, roedd y brenin a'r bobl wedi cynhyrfu. Roedden nhw fel coed yn y goedwig yn ysgwyd o flaen y gwynt.
3Felly dwedodd yr Arglwydd wrth Eseia, “Dos hefo dy fab Shear-iashŵf
7:3 Shear-iashŵf Ystyr yr enw ydy “Ychydig fydd yn dod yn ôl” (gw. 10:20-22).
i gyfarfod ag Ahas wrth derfyn y sianel ddŵr sy'n dod o'r Llyn Uchaf, ar ffordd Maes y Golchwyr.
4Dywed wrtho: ‘Paid panicio. Paid bod ag ofn. Does dim rhaid torri dy galon am fod Resin a'r Syriaid a mab Remaleia wedi gwylltio – dau stwmp ydyn nhw; dim mwy na ffaglau myglyd!’ 5Mae'r Syriaid – hefo Effraim a mab Remaleia – wedi cynllwynio yn dy erbyn di, a dweud, 6‘Gadewch i ni ymosod ar Jwda, codi ofn arni a'i gorchfygu. Yna gallwn osod mab Tafél yn frenin arni.’

7“Ond dyma mae'r Meistr, yr Arglwydd, yn ei ddweud:

Fydd y cynllun ddim yn llwyddo,
Fydd y peth ddim yn digwydd.
8Damascus ydy prifddinas Syria,
a Resin ydy pennaeth Damascus.
Samaria ydy prifddinas Effraim,
a Remaleia ydy pennaeth Samaria.
Mewn llai na chwe deg pum mlynedd
Bydd Effraim wedi chwalu a peidio â bod yn bobl.
Os na wnewch chi gredu,
wnewch chi'n sicr ddim sefyll.”

10Dyma'r Arglwydd yn siarad gydag Ahas eto: 11“Gofyn i'r Arglwydd dy Dduw roi arwydd i ti – unrhyw beth, does dim ffiniau.”

12Ond dyma Ahas yn ateb, “Na wna i, dw i ddim am roi'r Arglwydd ar brawf.”

13Yna dwedodd Eseia, “Gwrandwch, balas Dafydd. Ydy ddim digon eich bod chi'n trethu amynedd pobl heb orfod trethu amynedd fy Nuw hefyd? 14Felly, mae'r Meistr ei hun yn mynd i roi arwydd i chi! Edrychwch, bydd y ferch ifanc yn feichiog, ac yn cael mab – a bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel.
7:14 Emaniwel Ystyr yr enw Hebraeg ydy “Mae Duw gyda ni”.
,
e
15Cyn iddo ddod i wybod y gwahaniaeth rhwng drwg a da, bydd yn bwyta caws colfran a mêl. 16Cyn iddo allu gwrthod y drwg a dewis y da, bydd tir y ddau frenin wyt ti'n eu hofni wedi ei adael yn wag.

17“Bydd yr Arglwydd yn gwneud i ti a dy bobl a phalas dy dad fynd trwy gyfnod na fu ei debyg ers i Effraim
7:17 Effraim Effraim oedd prif lwyth teyrnas Israel, ac mae'n aml yn cynrychioli y wlad yn gyfan.
wrthryfela yn erbyn Jwda – bydd yn dod â brenin Asyria yma.”

18Bryd hynny,

bydd yr Arglwydd yn chwibanu ar y gwybed
sydd yn afonydd pell yr Aifft
a'r gwenyn sydd yng ngwlad Asyria.
19Byddan nhw'n dod ac yn glanio
yn y wadïau serth
a'r hafnau sy'n y creigiau,
yn y llwyni drain
a'r lleoedd i ddyfrio anifeiliaid.

20Bryd hynny,

bydd y Meistr yn defnyddio'r rasel
mae wedi ei llogi yr ochr draw i Afon Ewffrates
(sef brenin Asyria)
i siafio'r pen a'r blew ar y rhannau preifat;
a bydd yn siafio'r farf hefyd.

21Bryd hynny,

bydd dyn yn cadw heffer a dwy afr,
22Byddan nhw'n rhoi digon o laeth
iddo fwyta caws colfran.
Caws colfran a mêl fydd bwyd
pawb sydd ar ôl yn y wlad.

23Bryd hynny,

bydd pobman lle roedd mil o goed gwinwydd
(oedd yn werth mil o ddarnau arian)
yn anialwch o ddrain a mieri.
24Bydd dynion ond yn mynd yno gyda bwa saeth
am fod y tir i gyd yn anialwch o ddrain a mieri.
25Fydd neb yn mynd i'r bryniau
i drin y tir gyda chaib
am fod cymaint o ddrain a mieri.
Yn lle hynny bydd yn dir agored
i wartheg a defaid bori arno.
Copyright information for CYM